Addysg a'r Genedl. Gan Mr. Caleb Rees, B.A., Manceinion Yr Awen a Ballodd. Gan Mr. E. Morgan Humphreys.. Tudal. .. 241 250 . 256 . 263 . 276 .. 284 Y Cysegredig mewn Cerddoriaeth. Gan Pedr Alaw 321 .. Nodion Llenyddol a Diwinyddol. Gan Anthropos, Z. M., a'r Golygydd MEDI. Athrylith. Gan y Parch. James Evans, B.A. Ysgriflyfrau y Morrisiaid. Gan y Parch. O. Gaianydd Williams Llythyrau y Parch. Owen Jones, Llandudno, at Myrddin Fardd Eglwys Llanbeblig, Caernarfon. Gan Mr. J. Wynn Parry TACHWEDD. Addysg a'r Plentyn. Gan Mr. Caleb Rees, B.A. Yn Wyneb Haul. Gan y Parch. R. E. Rowlands, M.A. 312 Ysgriflyfrau y Morrisiaid. II. Gan y Parch. O. Gaianydd Williams Nodion Llenyddol a Diwinyddol. Gan y Parch. W. Hobley a R. G. R. Y TRAETHODYDD. "EDWARD MORGAN, DYFFRYN." * COLLED fawr i gorff y Methodistiaid, ac yn wir i Gymru oll, fuasai bod heb y llyfr hwn, ac y mae Mr. Ellis wedi gosod ei genedl o dan rwymau mawr i fod yn ddiolchgar iddo am ei gyhoeddi. Er nad yw ei iechyd er's tro wedi bod yr hyn y dymunasai ei gyfeillion iddo fod, eto y mae ei waith yn ychwanegu y gyfrol drwchus hon o 586 o dudalenau at y llyfrau eraill y mae wedi eu dwyn trwy y wasg yn ychwanegu ein rhwymedigaeth iddo; a hyderwn y peru i osod y genedl mewn dyled ychwanegol iddo o bryd i bryd am rai blynyddoedd eto. Mae y diweddar "Edward Morgan, Dyffryn," gwrthrych y cofiant hwn, yn ei fedd bellach er's dros bymtheg mlynedd ar hugain. Ysgrifennodd Mr. Ellis erthygl faith a thra rhagorol arno i'r TRAETHODYDD yn 1885; yn bennaf i alw sylw at waith mawr ei fywyd, a therfyna yr erthygl honno yn y geiriau canlynol:-" Yr ydym wedi taflu golwg amherffaith ar rannau pwysig o waith oes un sydd yn hynod anwyl gennym. Gofidiwn na fuasai bywgraffiad teilwng ohono wedi ymddangos er's blynyddau;" ac yna y mae yn cyfeirio at "un sydd yng Ngorllewin Meirionydd sydd ym meddu ar bob cymwysder i'r gwaith." Ysgrifenwyd y geiriau hyn bedair blynedd ar ddeg ar ol marwolaeth Mr. Morgan, ond fe aeth un mlynedd ar hugain ychwaneg heibio cyn i'r cofiant hir ddisgwyliedig gael ei gyhoeddi. Ac ysgrifenwyd ef yn y diwedd, nid gan y gwr y cyfeiria Mr. Ellis ato, ond ganddo ef ei hun; ac nid oes un amheuaeth gennym, pwy bynnag ydoedd yr "un arall" y sonia efe am dano, fod Mr. Ellis ym meddu ar gymhwysderau i'r gwaith nad oedd modd cael neb ym meddu ar eu rhagorach. Mae dau gymhwysder arbennig yn ofynol mewn bywgraffydd da, sef cydymdeimlad dwfn â'r gwrthrych ac â gwaith mawr ei fywyd, a gwybodaeth gyflawn o fanylion y bywyd hwnnw. Mae Mr. Ellis ym meddu y ddau gymhwysder hyn yn y radd helaethaf. Yr oedd Mr. Morgan, fel y dywed yn hynod anwyl" ganddo, ac y mae wedi tynnu y llinellau prydferth hynny oedd ym mywyd a chymeriad ei wrthrych gyda llaw dyner cyfaill. Ar y tu arall, y mae ei wybodaeth berffaith am 'Cofiant y Parchedig Edward Morgan, Dyffryn, gan y Parch. Griffith Ellis, M.A., Bootle. Gee a'i Fab, Dinbych. 66 bob manylion yn ei hanes, a'i ymlyniad gonest a chydwybodol wrth gywirdeb, yn sicrhau i ni fod yn y cofiant ddarlun perffaith gywir o "Edward Morgan, Dyffryn." Cawn yma photograph gan law gelfydd, heb ddim o'r touching up ar y negative ond yr un y gŵyr pob gwir artist sydd yn angenrheidiol er tyneru rhai o'r llinellau trymion sydd ymhob gwawl-lun da, er diogelu ardeb perffaith. Cymerasom y llyfr i fyny gyda'r bwriad i'w feirniadu yn rhydd a hyf, a gofalu bod y pwyntil yn y llaw i wneud nodiadau ar ymyl y ddalen. Ond ar ol ei agor, a gweled darluniau Mr. Edward Morgan, a'i dad yng nghyfraith, yr hybarch Richard Humphreys, Dyffryn, ynddo, ymgripiodd rhyw deimlad cysegredig drosom ar unwaith. Daeth yr hen ddyddiau gynt i'n meddwl, y troion y buom yn gwrando ar y naill a'r llall, a'r teimladau a lanwent ein mynwes y prydiau hynny, a rhywfodd fe lithrodd yr ysbryd beirniadol ymaith; ac yn lle darllen y llyfr yn ei ddechreu, troisom at y bennod yn desgrifio Mr. Morgan "fel pregethwr," td. 475, er mwyn adnewyddu yr hen adgof melus am dano; oblegyd fel pregethwr yn unig yr adwaenem ni ef. Trodd y bennod honno allan i ni sydd wedi heneiddio, ac a'i clywsom yn pregethu yn Liverpool ryw driugain mlynedd yn ol, yn un mor swynol, ac yr oedd y darluniau a dynid ohono fel pregethwr gan ddwylaw celfydd y fath wŷr a Dr. John Hughes, Dr. Owen Thomas, a'r Parch. Evan Jones, a chan Mr. Ellis ei hun yn ei ddwyn mor fyw o'n blaen fel yr oedd yn amhosibl peidio myned ymlaen. Ac ymlaen yr aethom gan dywallt ambell i ddeigryn ar y ffordd, at y pennodau dilynol yn desgrifio Mr. Morgan "yn ei gartref," ac "mewn cylchoedd ereill," ac yn "cadw noswyl," nes cael ein tynnu ymlaen fel hyn o gam i gam i'w ddyddiau olaf, a myned gyda'r dyrfa o enwogion i'w gladdedigaeth yn y Dyffryn, ac wylo gyda'r llu ar lan ei fedd yno. Ond gan mai nid fel hyn yr ydys i feirniadu llyfr, ceisiasom ymbwyllo, a dechreuasom arno o ddifrif o'i gwrr, ac yr ydym bellach wedi ei ddarllen drwyddo, a charem wneud ychydig o sylwadau arno. Os ceir ni yn anghofio y Cofiant yn y gwrthrych, hwyrach mai nid annaturiol fydd i'r cofiantydd gymeryd hynny fel prawf o ragoriaeth y llyfr, ac y mae yn iawn iddo wneyd hynny. Beth a wnaeth Mr. Morgan sydd yn haeddu Cofiant mor helaeth am dano? Ai yn unig am ei fod i'w restru ymhlith rhai o brif bregethwyr ei oes y gwnaed hyn iddo? Yr ydoedd felly, nid oes un amheuaeth. Dywedai Glaslyn am dano:-"Pe tynid allan ddwsin o'r pregethwyr enwocaf ymysg y Methodistiaid yn y cyfnod hwn byddai yn rhaid i Mr. Morgan fod yn un ohonynt; ie, tyner y nifer i lawr i chwech, os dewisir, a byddai yn anhawdd ei gau allan." Ond yr oedd Mr Morgan, heblaw bod yn bregethwr enwog yn Ddiwygiwr yn |