Pagina-afbeeldingen
PDF
ePub

DANIEL OWEN.

ADGOFION A MYFYRION AM DANO.

GANWYD Daniel Owen yn nhref y Wyddgrug ar yr 20fed o Hydref, 1836. Bu farw ar yr 22ain o Hydref, 1895. Dyna oedd y dechreu a dyna oedd y diwedd. Gellir dweyd yr un peth am y rhan fwyaf o lawer a fu yn y byd erioed, ond yr oedd Daniel Owen yn un o'r rhai y gellir dweyd mwy am dano. Bu efe fyw yn y byd yma am amser go faith, ac y mae hanes yr hyn a wnaeth, a'r hyn a ddywedodd, yn cyniwair drwy ein gwlad eto. Tra y bu yma gyda ni, cyffyrddodd a'r llinellau tyneraf yn ein natur fel nas gwnaeth neb a fu yn ein gwlad o'i flaen, ac oblegyd hynny, y mae ei goffadwriaeth yn fendigedig yn ein plith.

Yng ngwanwyn y flwyddyn hon, angenrhaid oedd i mi fyned i gyfarfod yng Ngasnewydd, lle y cyfarfum à dau oeddent wedi darllen ei holl weithiau, y rhai, pan ddeallasant fy mod innau yn frodor o'r Wyddgrug, ni pheidiasant fy holi o bant i bentan, ac o hyd, am Daniel Owen. Sut un ydoedd, sut un oedd ef o gorff, ac yn enwedig, o feddwl? A.oeddwn yn meddwl fod ei gerflun yn gwneud chwareu teg âg ef? Sut un ydoedd yn ei gwmni? A fu iddo frodyr, a chwiorydd, a pherthynasau? Pan ddeallasant, yn arbennig, fy mod wedi treulio y rhan fwyaf o'r chwarter canrif olaf o'i oes, yn fwy yn ei gwmni ef nag un arall o'm cyfeillion, nid oedd diwedd ar eu cwestiynau, ni flinent ychwaith ar fy atebion, er mor ddiffygiol oeddynt. Cymaint oedd eu dyddordeb yn fy nghyfaill fel yr esgus. odent hyd yn nod fy atebion a'm casgliadau gwaela, gan fy mod i raddau, er yn wan, yn rhoddi iddynt ryw adlewyrchiadau o'r portread dynasant o Daniel Owen. "A ydych chwi yn gwybod am rai o'r cymeriadau a ddisgrifiai-fath rai ydoedd y brawd Robert a'i fam? a Wil Bryan, a Thomas Bartley, a Barbara, a Seth, ynghyda'i Gapel Mawr Iesu Grist?" a chant a mil o gwestiynau eraill, y rhai nad oedd gennyf i mor hamdden na'r medr i'w hateb. Dangosai eu gofyn dibaid nad oedd y deng mlynedd o ddistawrwydd oedd wedi myn'd heibio ar ol ei farwolaeth wedi lleddfu dim ar eu chwilfrydedd ynghylch fy anwyl gyfaill. Yr oedd y cymeriadau a ddarluniasai wedi ymgnawdoli iddynt hwy, ac yr oedd Robert ei frawd, a'i fam Wil Bryan, a'r lleill yn fwy adnabyddus iddynt na'u cyfeillion agosaf, a dangosai y dagrau a ddisgleiriai yn eu llygaid, yn enwedig wrth son am Seth a'r Capel Mawr, gymaint oedd eu dyddordeb yn y bobl a greasai fy nghyfaill iddynt hwy ac i Gymru oll. Fel y dychwelais dranoeth, ac yr arosais am y noswaith yn un o ardaloedd mwyaf poblog yng Ngogledd Cymru, cyfarfyddais à nifer o weithwyr, y rhai oeddent

oll yn gynefin â gweithiau Daniel Owen, a thyna oedd yn rhyfedd, yr un cwestiynau yn union ag a ofynid gan y dosbarth canolraddol yn y Deheudir a ofynid hefyd gan y dosbarth gweithiol yn y Gogledd. Rhaid yw eu bod oll wedi bod yn meddwl yr un pethau, a bod ein cyfaill, yn ei ysgrifeniadau, wedi cyffwrdd â chalonnau pobl y De, fel ag â chalonnau pobl y Gogledd. Yr oedd, heb yn wybod iddynt hwy eu hunain, wedi denu eu calonnau oddiarnynt. Yr un oedd yr effaith ym mhob man, a'r cwestiwn yr wyf wedi bod yn ofyn i mi fy hunan dros y blynyddau ydyw--beth oedd y gyfaredd honno yn fy hen gyfaill oedd yn swyno ac yn llygad-dynnu cenedl gyfan ato ef? Un atebiad, a'r un mwyaf cyffredinol, ydyw mai ei athrylith neu ei genius ydoedd. le, athrylith ydoedd, ond pa beth yn yr athrylith? Waith mae rhai mor athrylithgar ag yntau wedi methu denu dim ar neb, yn hytrach eu gyrru ymhellach a wnaethent. Mae rhai eraill âg athrylith ganddynt; rhai àg athrylith i farddoni, eraill i bregethu, eraill i ysgrifennu, ac ambell un i fod yn dlawd; ond, dyma un àg athrylith ganddo i swyno pawb! Beth oedd o, pa athrylith oedd honno? Wel, wn i ddim, os nad rhyw allu i gydymdeimlo. Gallu i gydfyned âg un ym mhrofiadau dyfnaf a melusaf ei natur, gan ddyfod oddiyno a mynegu iddo feddyliau ei galon ei hun, ryw gan' mil gwell nag y gallasai efe byth eu mynegu ei hunan. Yn wir, prin y dirnada un fod y fath feddyliau erioed wedi bod yn ei galon, canys anelwig ddigon oeddynt nes y daeth y cyfaill i'w datguddio iddo; neu eto, y gallu i greu neu ddwyn allan y pethau y bu y dyn ei hun yn teimb oddiwrthynt, ond yn methu a'u dwyn i'r esgoreddfa. Ac edrych yn y wedd yma, ein plant ni ein hunain oedd y cymeriadau a ddisgrifiwyd gan Daniel Owen, ac ni wnaeth efe ond rhoddi ffurf a mynegiant i'r creaduriaid fu yn ymwthio drwy ein meddyliau ni ein hunain, ona ein bod ni wedi methu a rhoi ein bys arnynt. Ond, yn awr, wedi dyfod o'n cyfaill, dyna nhw yn fyw ac yn sefyll o flaen ein llygaid, heb berygl i ni golli ein gafael ohonynt dros byth, yn fyw. Dyna a wnaeth efe, a thyna sy'n rhoi cyfrif helaeth am ei boblogrwydd ; dyfod i ddatguddio ein hunain i ni ein hunain, ac yr ydym o hynny yn gyfoethocach o'i ddyfodiad na fuasem yn dragywydd heb hynny. Fel y mae yn hysbys i nifer mawr o ddarllenwyr Y Traethodydd, un o "gywion yr estrys" ydoedd ein cyfaill ym moreu ei oes. Bu farw ei dad pan nad oedd ond chwe' mis oed, ac nid oedd ei fam, gan belled ag y gallaf fi ddeall, yn y seiat, ond ei bod yn ddynes à llawer o naws grefyddol arni. Darllennai ei Beibl gyda blas, ac arferai egni i fynychu y moddion; ac, os nad yn grefyddol, yr oedd yn rinweddol iawn. Dygai ei phlant i fyny hefyd yr un fath a hi ei hun, yn blant rhinweddol. Ni fu yr un ohonynt yn destyn blinder iddi erioed, er eu bod, y ddau fachgen yn enwedig, fel y gwelir plant a rhywbeth ynddynt, yn fechgyn direidus ddigon, ond direidi diniwed

ydoedd, hawsach i chi wenu o'i herwydd na llidio. Yn hynny, nid oedd na Dafydd na Daniel ddim yn ol i'r rhai direidiaf yn y dref. Modd bynnag am hynny, daeth y ddau, fel yr oeddynt yn prifio i fwy o faint, i ymyrryd yn fwy â phlant pobl y capel, lle yr oeddynt eisoes yn aelodau o'r Ysgol Sabothol. Tyfodd y ddau yn fwy, fwy, gan lynu wrth y capel a chlosio at yr Achos, fel ag y daeth Dafydd o dipyn i beth i gael edrych arno fel un o'r llanciau mwyaf gobeithiol yn y lle. Nid wyf yn gwybod pa un o'r ddau ymunodd gyntaf, ond oddeutu yr amser ag y prentisiodd gyda Mr. Angel Jones yr ymunodd Daniel, fel yr wyf yn tybied. Yr oedd eu cynnydd ill deuoedd yn amlwg. Cawsent eu dewis yn athrawon yn fuan, a phan nad oedd eto ond llanc digwyddodd i Dafydd fyned ar Saboth i ymweled â Rhosesmor. Pan ei gwelodd yn yr ysgol yno, aeth yr arolygwr ato, gan ddywedyd y byddai raid iddo holi yr ysgol, a chydsyniodd yntau â hynny. Yn yr ysgol y prydnhawn hwnnw yr ydoedd y diweddar Mr. Evan Lloyd, Lletty'r Eos, yr hwn hefyd oedd un o'r blaenoriaid. Yn ei amser aeth Dafydd ati i holi, a dywedai wrthyf, flynyddoedd lawer wedi hynny, iddo gael mwy o flas ar yr holi nag a gafodd lawer gwaith, ac oblegyd hynny, iddo gael ei demtio i ofyn cwestiynau mwy damcanol (speculative) nag a fuasai ddoeth iddo. Fodd bynnag, ar ganol yr asbri a'r hwyl oedd ar yr holi a'r ateb— pennod o'r Hyfforddwr oedd ganddynt-dyma Dafydd yn gofyn cwestiwn mwy damcanol na'r cyffredin. Synnodd pawb, ac aethant yn fud. O'r diwedd dyma lais Mr. Lloyd, Lletty'r Eos, yn torri ar y distawrwydd, ac yn dywedyd: "Dafydd Owen, pe buasai eisieu gofyn y cwestiwn yna, buasai Mr. Charles wedi ei ofyn o." Gwen. odd yr ysgol drwyddi, a thawodd Dafydd yn ddigon swta, fel ceiliog wedi cael torri ei grîb, ac o'r bron y gallodd derfynu drwy weddi. Ni flinwyd ei frawd ieuengach erioed gan y fath brofedigaeth, er ei fod yn ddigon chwannog i droi gyda chwestiynau speculative, eto yr oedd yn rhy ochelgar, a hawsach fuasai iddo gymeryd rhan Mr. Lloyd, Lletty'r Eos, na rhan ei frawd. Yn wir, yr oedd ganddo dalent i roi eraill mewn trybini nad ymyrrai âg ef ei hunan ynddo am bris yn y byd. Clywais ef yn ymorchestu droion yn y ffaith na ddarfu iddo erioed roddi cynygiad gerbron Cyfarfod Athrawon heb fedru ei gario. Atebwn innau y buasai yn well iddo fethu efo rhai o'i gynygion na llwyddo, gan ei adgoffa am un y llwyddodd drwyddo i ddinystrio dosbarth o ddynion ieuainc, gobeithiol iawn hefyd. Chwareu teg iddo, addefodd ei fai, gan ymesgusodi ei fod wedi camgymeryd yr amser i wneud cynygiad yn lle edrych am foddion i wella'r clwy. Yr oedd ein cyfaill yn chwannog i rywbeth felly, nid oherwydd ansefydlogrwydd ei farn yn gymaint ag oherwydd ei orawydd am wneuthur daioni. Nis gallai feddiannu digon ar ei amynedd i ystyried digon ar y pros. a'r cons., ond rhedai yn ei flaen ar draws

ac ar hyd i wneud yr hyn argymhellid gan ei natur dda ddifeddwlddrwg ei hun. Arweinid ef i brofedigaeth mynych oblegyd hyn, y rhai nad oes amser na gofod i mi eu henwi ar hyn o bryd, ond gadawaf hwynt, gan ddweyd mai dyna, yn ol fy syniad i, oedd ei wendid. Ond, lle yr oedd wan yr oedd hefyd yn gryf, canys lle bynnag ag y bwriai ei goelbren, yno y byddai efe. Ni bu neb erioed yn fwy ffyddlawn i'w gyfaill a'i egwyddorion hefyd nag y bu efe, a hyn a'i gwnai hefyd mor deyrngarol i'r achos, â'i trwy y tew a'r teneu hefo er ei fwyn, a glynai wrth yr achos hefyd pa wedd bynnag fyddai arno." Glynai'n gloss heb os nac onibae." Nid un yn dilyn o hirbell fyddai efe, ond bob amser yng nghanol y dyrfa, yn wir, o'i blaen yn hytrach. Ac am hynny, ni welid ef un amser yn petruso pa un ai mantais neu anfantais iddo ef yn bersonol allasai rhywbeth fod, eithr yn deyrngarol ac yn benderfynol i fyned o'r peth i'r goel. Ebai unwaith wrth chwaer a'i henw "Grace" oedd yn ceisio ymesgusodi rhag myned i dorri bara ac ymenyn a bara brith gogyfer a chyfarfod te oeddym ar gael, “Mae gen i adnod sydd yn peri i chwi fyned." Ai oes, Mr. Owen, p'run ydi honno deudwch?" "Wel honno," atebai yntau, "Gras fyddo gyda chwi." Chwarddodd y chwaer yn galonnog, ac ymaith a hi at ei gorchwyl.

Rywbryd tua'r blynyddoedd 1863 neu 1864 y dechreuodd bregethu, ac fel y dywedwyd wrthyf, yr un adeg ag y dechreuodd y Proffeswr Ellis Edwards, o'r Bala, a bu eu hachos o flaen yr eglwys yr un noson. Mewn tŷ annedd ym Maesydref y dechreuodd, lle y cynhelid Ysgol Sabothol-un o ganghenau Ysgol Sul y Capel Mawr. Dywedir wrthym mai digon tila y bu hi arno y noswaith honno, a bu agos iddo dorri lawr yn gyfangwbl. Ond daliodd ati hi yng ngwyneb pob anhawster, ac yn groes i ddisgwyliad y rhai oedd yn bresennol, daeth trwyddi hi. Cafodd afael ar ei manuscript, a llwyddodd i gymeryd y gŵys hyd y pen. Y tro nesaf, cafodd gyfleustra i dreio yn Ysgoldy y Capel Mawr, pryd yr ydoedd wedi paratoi yn fwy gofalus, wedi dysgu ei wers yn well; heblaw hynny, yr oedd yr anhawster a fu agos a'i rwystro y noson gyntaf yn fantais iddo byth er hynny. Gorfodwyd ef i baratoi yn ddyfalach, i fyned tros yr hyn a fwriadai ei ddweyd yn amlach, ac i gadw popeth a baratoi yn fwy gofalus. Cefais brawf diymwad o hynny yng Nghyfarfod y Gwyliau, 1871, pryd y penodwyd arno ef a minnau i “ddywedyd" gair, chwedl hwythau. Dewisodd ef "y Bethma" yn destyn, a dewisais innau "Ymddangos a bod." Gennyf fi 'roedd y testyn goreu, ond ganddo ef oedd y bregeth oreu tuhwnt i bob cymhariaeth. Yr oedd efe wedi astudio ac ysgrifennu pob brawddeg, a hynny drosodd a throsodd drachefn. Yr oeddwn innau wedi meddwl fy araeth allan yn go wych, ond heb ysgrifennu gymaint a brawddeg. Mi ffeindiais i allan, unwaith am byth, fod meddwl rhywbeth gogyfer a'i ddweyd, a

hynny mewn cader o flaen y tân, yn rhywbeth tra gwahanol i'w ddweyd gerbron oddeutu mil o bobl. Penderfynais y noson honno fy mod wedi cyflawni y ddau ben i'm testyn beth bynnag-ymddangos a bod yn ynfyttyn. Ond am Daniel, onid oedd o'n taro yr hoel ar ei phen bob ergyd? a phawb yn eu hwyliau goreu yn gwrando, tra yr oeddwn innau mewn cywilydd a gwarth yn ceisio cuddio fy wyneb. Ond, dyna fel y bu y noson honno. Erbyn chwilio, deallais fod hyn yn arferiad ganddo, wedi ei gymeryd er y noswaith y bu agos a thorri i lawr pan yn pregethu ar brawf wyth mlynedd cyn hynny. Yr ydoedd wedi ymarfer à hi fel nodded i'w enw ei hun, ac hefyd o barch i'r rhai y byddai yn eu hanerch; ac am a wn i yr oedd yr olaf yn amcan llawn mor deilwng a'r cyntaf, gan ei fod i raddau yn sicrhau iddynt rywbeth gwerth ei wrandaw. Yr ydoedd y Parch. Joseph Thomas hefyd yn hynod o ofalus am wneud yr un peth, a chlywais am dano yn rhoddi cyngor i bregethwr ieuanc ar ei fynediad cyntaf allan. "Gofalwch," meddai, "am roddi pregeth dda iddyn' nhw yrwan wrth ddechreu pregethu. Dyna i chi Thomas Kynast yna, mae o'n pregethu'n well na'n hanner ni, ond dydi'r bobl ddim yn meddwl hynny, gan mai pregethu rywsut y darfu iddo wrth ddechreu, ac y mae nhw'n meddwl mai pregethu rywsut y mae o o hyd. Gwnaeth gam âg ef ei hun, ac andwyodd ei ddefnyddioldeb am byth o ddiffyg cymeryd tipyn o drafferth pan yn dechreu pregethu." Yr ydoedd Daniel Owen wedi yfed ysbryd y cyngor, er nas cafodd ef gan Joseph Thomas. Pob braich o englyn a gyfansoddodd erioed maent i'w cael mewn ysgrifen, neu linell o farddon. iaeth, wele, hefyd, ysgrifenwyd honno, a phob pwt arall o araeth, yr un fath, fel erbyn y diwedd fod ganddo doreth o stock i dynnu oddiarni ar unrhyw achlysur ddeuai i'w gyfarfod. Er engraifft, dyna araeth y "Bethma" wedi ei chyhoeddi air am air fel yr hadroddwyd hi bymtheng mlynedd cynt. Yr un fath am ei bregethau. Byddai yn ysgrifennu pob gair o'r rhai hynny yn ofalus. Nid wyf yn sicr pa un a'i pregethau ynte myfyrdodau y dylid eu galw, oblegyd dygant y wedd o fyfyrdodau yn fwy nag o bregethau, ac wrth bregethu siarad ei fyfyrdodau y byddai yn fwy na phregethu. Byddai yn cymeryd caritor Beiblaidd yn destyn ei fyfyrion, ac olrheiniai droadau, cwympiadau, ac esgyniadau hwnnw fel ei dangosid yn yr Ysgrythyr Lân, ac yn y diwedd, neu, yn wir, wrth fyned ymlaen, tynnai y wers a chymwysai hi ato ei hun ac at ei wrandawyr. Nid oedd y dull hwn o bregethu yn un poblogaidd mae yn wir, ac ni fu Daniel Owen ar un ystod o'i fywyd yn bregethwr poblogaidd, ond yr oedd yn un difyr ryfeddol i wrandaw arno. Ac nid yn unig yn un difyr, ond yn un adeiladol hefyd. Yr oedd y rha mwyaf profiadol yn ein heglwysi a'n cynulleidfaoedd yn hoff o'i wrando, ac wedi ei glywed un tro, sychedent am ei glywed drachefn,

« VorigeDoorgaan »